Grace yn edrych nôl
Enw: Grace Smith
Sut ydych chi’n teimlo am eich amser ar y rhaglen Engage to Change DFN Project SEARCH?
Rydw i’n teimlo’n fwy hyderus ar ôl bod ar Project SEARCH. Wnes i ffrindiau newydd, rydw i wedi gwella fy sgiliau cyfathrebu ac rydw i’n teimlo fy mod wedi dod yn bell ers dechrau Project SEARCH.
Pa interniaethau ydych chi wedi gwneud ers i chi ddechrau Engage to Change DFN Project SEARCH?
Llyfrgell Talybont/ASSL – Cynorthwy-ydd Llyfrgell
Yr Adran Ystadau, Tŷ McKenzie – Cynorthwy-ydd Gweinyddol
Ysbyty yr Heath – Technegydd Cynorthwyol
Beth oedd eich hoff interniaeth a pham?
Fy hoff interniaeth yw Ysbyty yr Heath, mae wedi bod yn y gorau oherwydd roedd hi’n hwyl gweithio yna. Rydw i’n hoffi’r tasgau ac mae’r bobl wedi bod yn gyfeillgar.
Disgrifiwch rhai o’r tasgau wnaethoch chi yn ystod y flwyddyn.
- Labelu ac archifo llyfrau yn archifau’r brifysgol.
- Lleoli a gwaredu llyfrau nad sydd ei angen bellach.
- Prosesu a sganio llyfrau mewn i system y llyfrgell.
- Casglu a prosesu llyfrau y gofynnir amdanynt ar y system llyfrgell electronig.
- Diweddaru systemau yr ystadau gyda tasgau cynnal a chadw wedi’i gwblhau.
- Diweddaru cofnodion electronig.
- Gwaredu cofnodion cyfrinachol wedi ei harchifo.
- Sganio, llungopïo a rhwygo.
- Gwneud cyffuriau efelychu ar gyfer y myfyrwyr.
- Tacluso’r cypyrddau SDL.
- Llenwi’r cypyrddau cyffuriau.
Sut mae hi wedi helpu chi i fod ar Engage to Change DFN Project SEARCH a beth ydych chi wedi dysgu yn ystod y flwyddyn?
Mae hi wedi helpu fi gyda fy sgiliau cyfathrebu, gwneud cyswllt llygaid a siarad gyda phobl.
Sut mae Lily (hyfforddwr swydd), Kerri a Bev (hyfforddwyr y coleg) wedi helpu chi yn ystod y flwyddyn? Pa fath o gymorth ydych chi wedi derbyn ohonynt?
Helpodd nhw wneud fy nghynllun cyfathrebu 10 cam, cyfathrebu gyda pobl yn y gwaith.
Helpodd nhw gyda tasgau newydd yn y gwaith.
Helpodd nhw pan ddes i’n sownd yn y gwaith.
Pa fath o swyddi ydych chi’n gwneud cais amdano ac a ydych chi wedi bod yn llwyddiannus eto?
Rydw i wedi ymgeisio am Cynorthwy-ydd Domestig ym Mhrifysgol Caerdydd ac rydw i’n gobeithio cael swydd gyda’r ganolfan addysg meddygaeth.
Nawr bod Engage to Change DFN Project SEARCH yn dod i ddiwedd, beth fyddwch chi’n hoffi gwneud, neu’n cynllunio gwneud, yn y dyfodol?
Fy nghynllun am y dyfodol yw i weithio rhywle fel Ysbyty yr Heath gyda’r myfyrwyr dan hyfforddiant.