Goleuni ar…ELITE
Yn yr wythnosau diwethaf rydyn ni wedi clywed o rhai o’r hyfforddwyr swydd a cynorthwywyr hyfforddiant cyflogaeth o ELITE. On nid y rhain yw’r unig rhai sy’n gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni…
Tracy Moore, Cynorthwy-ydd Gweinyddol
Beth yw eich rôl ar Engage to Change?
Fel y Cynorthwy-ydd Gweinyddiaeth [ar gyfer ELITE], fi yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer atgyfeiriadau ac yna yn rheoli cylchrediad ac yn cofnodi gwybodaeth cleient a data ar gyfer y prosiect. Rwy hefyd yn gwneud yr holl swyddogaethau gweinyddiaeth ar gyfer y tîm ac yn cynnal cyfrinachedd pob cofnod cleient.
Beth ydych chi’n mwynhau’r mwyaf am eich swydd?
Clywed holl straeon o lwyddiant o’r tîm a cyswllt gyda cleientiaid dros y ffôn.
Beth fu eich moment Engage to Change mwyaf falch?
Gweld cyfweliad diweddar gan Gerraint Jones-Griffiths a sut mae e wedi tyfu mewn hyder ers bod ar y rhaglen.
Beth yw rhai o’ch hoff bethau?
Gwrando i gerddoriaeth, gwario amser gyda fy nheulu sy’n tyfu, plant a wyrion.
Benny Griffiths, Cydlynydd Gwirfoddolwyr
Beth yw eich rôl ar Engage to Change?
Fy rôl ar Engage to Change yw i recriwtio, hyfforddi a cefnogi gwirfoddolwyr ar draws De Cymru.
Beth ydych chi’n mwynhau’r mwyaf am eich swydd?
Does yna fyth eiliad diflas nac araf yn y swydd yma – mae’r natur cyflym ohono yn fy ngalw ar fy myseddyn! Rwy’n cael y cyfle i siarad â llawer o bobl a gweld llawer o lefydd o gwmpas De Cymru. Dros bopeth, rydw i’n cael gweithio gyda cymaint o bobl caredig gyda bwriadau da – mae gweithio tuag at achos mor wych yn rhoi’r gwên fwyaf ar fy wyneb.
Beth fu eich moment Engage to Change mwyaf falch?
Rwy wedi cael y cyfle i weld yn uniongyrchol llawer o’r bobl rydyn ni wedi helpu. Mae’r prosiect wedi cael straeon wych o lwyddiant o’r bechgyn a’r merched rydyn ni’n cynorthwyo – ei gweld nhw yn y gwaith yn mwynhau ei rolau…mae’n anodd dewis un moment allan ohonyn nhw i gyd!
Beth yw rhai o’ch hoff bethau?
Mae rygbi yn rhan fawr o fy mywyd. Rwy’n gwirfoddoli gyda clwb rygbi Pen-y-Bont fel rhan o’r tîm cyfryngau. Rwy hefyd yn syrffio ac yn syrffio gwynt eitha llawer – tra mae’r rhan fwyaf o bobl yn casau tywydd gwael, rwy fel arfer yn cipio siwt gwlyb ac yn ffeindio’r traeth agosaf!