Sam yn rhagori fel Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu
Wnaeth Sam Fox ymuno â’r prosiect Engage to Change yn Ionawr 2017 trwy ELITE. Ar ôl cyfarfod ei ymgynghorydd Kate Goode i gwblhau gwaith papur ac asesiadau cychwynnol, dechreuon nhw drafod pa fath o swydd basai Sam yn hoffi gwneud. Dywedodd Sam wrth Kate ei fod wir eisiau gweithio mewn ysgol ac yn enwedig gyda plant gydag anableddau.
Yn fuan ar ôl hyn roedd Ysgol Craig y Parc School ym Mhentyrch yn hysbysebu am Cynorthwywyr Cymorth Dysgu. Rhoddodd Kate cymorth i Sam i gwblhau ymgais ac fe gafodd ei gwahodd i gyfweliad yn Ebrill. Roedd Sam eisiau mynychu’r cyfweliad ei hun felly ymwelodd Kate â Sam yr wythnos cynt i gwblhau rhywfaint o waith paratoi cyfweliad gyda’i gilydd. Wnaeth Sam yn wych yn y cyfweliad ac fe gafodd ei cynnig swydd llawn amser fel Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu.
Wedi cwblhau hyfforddiant cynefino ym Mai. Dechreuodd Sam ei swydd ar 5ed Mehefin. Ymwelodd Kate â Sam ar ôl wythnos ac fe ddywedodd Sam “Rwy wedi ffeindio fy wythnos cyntaf yn wych. Roeddwn i bach yn nerfus ar y dechrau ond wnes i setlo mewn yn gloi ac rydw i’n mwynhau’r gwaith.”
Dywedodd goruchwyliwr Sam, Zsuzsa Blackmore, “Mae Sam wedi setlo mewn yn dda iawn. Mae e’n aelod o’r tîm sy’n gweithio’n galed. Cafodd Sam wythnos gyntaf bendigedig. Fe wnaeth rhoi cymorth i ddisgyblion yn y dosbarth ac roedden nhw i gyd eisiau Sam i’w helpu nhw. Mae e’n model rôl grêt am ein disgyblion ac mae’n dod ymlaen yn dda gyda’r holl cynorthwywyr arall.”
Da iawn Sam!
Stori gan ein partneriaid yn ELITE Supported Employment.