Engage to Change yn Sioe Awtistiaeth Cymru
Ar ddydd Iau diwethaf Medi 28fed, mi oedd aelodau o’r tîm Engage to Change Anabledd Dysgu Cymru ac ELITE Supported Employment yn bresennol yn y Sioe Awtistiaeth Cymru a chafwyd ei ddal yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Gyda bagiau llawn pamffledi, nwyddau, a siocled, paratowyd y stondin yn barod am gyrhaeddiad tua 2000 o fynychwyr yn ystod y diwrnod.
Roedden ni’n hapus i weld Richard Mylan a Jaco unwaith eto, dau sêr y rhaglen ddogfen BBC Un, Bywyd Gydag Awtistiaeth, a wnaeth cynnwys Gerraint a Jenna o Engage to Change yn gynharach y flwyddyn yma. Richard and Jaco a agorodd y sioe, diwrnod llawn arddangoswyr yn arddangos ei cynhyrchion a’i gwasanaethau, seminarau gydag amrywiaeth o siaradwyr, a’r cyfle i gwrdd unigolion, teuluoedd a pobl proffesiynol arall.
Trwy gydol y diwrnod daeth mynychwyr i’n stondin am sgwrs ac i ddarganfod mwy am beth mae Engage to Change yn cynnig, gan feddwl ein bod wedi gorffen y diwrnod gyda bagiau llawer yn ysgafnach na’r rhai a ddechreuon ni gyda! Cyfwelwyd Gerraint gan Able Radio, oedd yn darlledu o’r digwyddiad, gan cyd-gyfranogwr Engage to Change – Travis.
Diolch o galon i’r trefnwyr am ei gwaith ar y digwyddiad gwych yma, ac am rhoi’r cyfle i ni i godi ymwybyddiaeth y prosiect a siarad yn uniongyrchol â’r rhai yr ydym yn gobeithio eu cefnogi gyda’n gwaith.