Sesiwn briffio brecwast Engage to Change yn Ysgol Busnes Caerdydd
Bore ‘ma cyflwynodd aelodau’r tim Engage To Change Dr Stephen Beyer, Chris English a Lily Beyer y prosiect yn sesiwn briffio brecwast Ysgol Busnes Caerdydd ‘Mae Pawb yn Haeddu Cyfle i Weithio’. Dros coffi a croissants, wnaethon nhw ffocysu ar yr achos busnes am gyflogi pobl gydag anabledd dysgu, ymgysylltu â chyflogwyr a llwyddiant safle Engage to Change DFN Project SEARCH Prifysgol Caerdydd.
Wedi hynny, rhoddodd y sesiwn cwestiwn ac ateb gyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau i’r tim, ac fel y digwyddodd, arddangosodd hyn gymaint yr ymgysylltodd nifer o aelodau’r gynulleidfa gyda’r cyflwyniad a’r gwaith y mae’r prosiect yn gwneud. Erbyn i tad un o’r interniaid Engage to Change DFN Project SEARCH siarad yn gofiadwy am ba mor bell y mae ei tad wedi dod ers Medi a’r newidiadau positif y mae wedi gweld ynddo, hyn oedd diweddglo perffaith i fore gwych. Am fwy, ewch i Twitter.
Gallwch chi hefyd wylio’r holl gyflwyniad a gweld y sleidiau yma.