Gweithio ar reng flaen y GIG
Erioed wedi meddwl sut beth yw gweithio ar y rheng flaen yn y GIG yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws? Mae Rhys, un o gyfranogwyr Engage to Change a gymerodd ran yn rhaglen interniaeth â chymorth DFN Project SEARCH yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr y llynedd, yn esbonio:
“80% o’r amser mae fel unrhyw ddiwrnod arall gyda’r feirws, ond 20% o’r amser mae’n anodd oherwydd bod rhai ardaloedd mae’n rhaid i chi gadw draw oddi wrthyn nhw ac ar rai wardiau mae’n rhaid i mi wisgo mwgwd wyneb, ac rwy’n ei chael yn anodd anadlu i mewn bryd hynny. Mae’r cyhoedd yn fy nghadw fi i fynd drwy’r clapio a gwneud i mi deimlo’n hapus”.
Graddiodd James, Tom, Luke a Rhys i gyd fis Mehefin diwethaf o raglen interniaethau DFN Project Search Engage to Change yn Ysbyty Tywysoges Cymru a llwyddodd y pedwar i sicrhau cyflogaeth barhaol â thâl yn yr ysbyty ar ddiwedd eu hinterniaethau.
Sicrhaodd Rhys swydd am 37 awr yr wythnos fel Cynorthwyydd Fferyllfa tra bod gan James, Tom a Luke gontractau am 20 awr yr wythnos yn yr Adran Gwasanaethau Cymorth.
Mae’r pandemig Covid-19 presennol wedi golygu, fel gweithwyr allweddol yn yr ysbyty, bod y pedwar wedi bod yn gweithio’n barhaus i helpu i amddiffyn ein GIG ac achub bywydau. Fe wnaeth Peter Obradovic, Ymgynghorydd Cyflogaeth yn ELITE Supported Employment, ddal i fyny gyda James, Tom, Luke a Rhys yn ddiweddar i weld sut yr oedden nhw’n ymdopi â’r sefyllfa.
Luke: “Dwi’n poeni braidd am Covid-19, ond pan fydda i’n mynd i’r gwaith dwi’n canolbwyntio ar fy swydd ac yn cymryd y rhagofalon angenrheidiol. Rwy’n hapus gyda’r clapio i’r GIG, ond dydw i ddim yn hoffi bod yn ganolbwynt sylw, felly rydw i’n clapio y tu mewn i’r tŷ”.
Tom: “Mae gwaith yn mynd yn dda iawn a dwi’n gwneud llawer o oramser ar hyn o bryd”.
James: “Mae popeth yn iawn yn y gwaith a dwi’n teimlo’n iawn”.
Dywedodd Peter wrthym “Rwyf mor falch o’r pedwar dyn ifanc hyn; maen nhw wedi gweithio mor galed i gyrraedd lle maen nhw heddiw ac maen nhw’n glod iddyn nhw eu hunain ac i’r prosiect. Pan fyddaf yn clapio ar gyfer y GIG ar nos Iau, rwy’n clapio’n fwy caled iddyn nhw gan eu bod nhw’n mynd i’r gwaith a rhoi eu hunain mewn perygl er mwyn helpu i gadw’r GIG yn gweithio i ni i gyd. Mae llwyddiant y bechgyn drwy eu gwaith caled a gyda’r cymorth a’r gefnogaeth a gawsant drwy’r holl bartneriaid yn dangos pwysigrwydd y DFN Project SEARCH a’r prosiect Engage to Change wrth baratoi ein pobl ifanc ar gyfer swyddi gweithwyr allweddol ym myd Covid-19 a thu hwnt”.