Digwyddiad ar-lein 24 Mawrth: Y ffordd ymlaen – darparu cyflogaeth ar gyfer pobl gydag anabledd dysgu ac awtistiaeth
Ymunwch â ni ar 24 Mawrth i wybod mwy am yr ymchwil tu ôl i Engage to Change a’r hyn rydyn ni’n credu sydd eisiau digwydd yng Nghymru i alluogi mwy o bobl gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth i ddod o hyd i a chadw gwaith am dâl.
Fel rhan o nod y prosiect i ddylanwadu’n gadarnhaol ar agweddau a pholisïau am gyflogaeth â chymorth gydag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth, mae ein partneriaid Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cynhyrchu papurau briffio ar bynciau amrywiol ac wedi gwneud sawl argymhelliad i lunwyr polisïau.
Ar 24 Mawrth 2021, bydd Dr Steve Beyer yn amlinellu cynnwys dau bapur briffio diweddaraf ei dîm am y pynciau canlynol:
- Pa newidiadau polisi sydd eisiau i roi mynediad cyfartal ar gyfer pobl gydag anabledd dysgu neu ASA i’r farchnad lafur yng Nghymru?
- Sut gall cyflogwyr sector cyhoeddus fel GIG helpu pobl gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth i gael swyddi?
Caiff cyfranogwyr y cyfle i glywed mwy am yr ymchwil tu ôl i’r papurau briffio a sut gallan nhw gymryd rhan yn ein helpu i gyflawni’r canlyniadau a amlinellwyd yn argymelliadau Dr Beyer. Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau a gwybod mwy am waith y prosiect.
Anelir y digwyddiad ar-lein hwn at:
- llunwyr polisïau (lleol a cenedlaethol ill dau);
- penderfynwyr yn y GIG a sefydliadau sector cyhoeddus eraill;
- cyflogwyr;
- comisiynwyr;
- rhywun â diddordeb mewn cyflogaeth â chymorth, coetsio swyddi ac interniaethiau â chymorth ar gyfer pobl gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth.
Lleoliad: Ar-lein trwy Microsoft Teams (anfonir cyfarwyddiadau llawn pan archebwch chi)
Dyddiad: 24 Mawrth 2021
Amser: 10:00 – 11:30
Archebwch eich lle am ddim nawr ar wefan Anabledd Dysgu Cymru.