Blog Gerraint Ebrill 2021
Ar 14eg Ebrill mynychais i ddigwyddiad cyflogaeth ym Mlaenau Gwent a drefnwyd gan BNI De Cymru, sydd yn sefydliad rhwydweithio busnes. Siaradais i am Brosiect Engage to Change a sut mae’n gweithio i gefnogi pobl ifanc, eu rhieni/gofalwyr a chyflogwyr i ddod dros rwystrau i gyflogaeth, ennill profiad gwaith, interniaethau a gwaith cyflogedig. Ces i beth adborth da oddi wrth y rhai a fynychodd.
Hefyd mynychais i’r grŵp LGBTQ+ yr un ddiwrnod, a gadeiriwyd gan Siân Davies ym Mencap. Cyfarfod rhwydweithio rheolaidd yw hwn ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl gydag anableddau dysgu sy’n anelu at godi Ymwybyddiaeth a threfnu digwyddiadau i bobl o’r gymuned LGBTQ+.
Mynychais i’r gweithdy prosiect Ein Rhwydweithiau Cymdeithasol ar 23ain Ebrill. Mae’r prosiect hwn wedi bod yn casglu storïau 60 o bobl gydag anabledd dysgu trwy sgyrsiau personol â’u ffrindiau, eu partneriaid rhamantus neu eu teulu. Recordiais i ar recordydd sain am fy mhrofiadau gyda pherthnasau a chyfeillgarwch gyda Anna Suschitzky o Mencap ymhell cyn Cofid.
Ar y 29ain Ebrill cyd-gyflwynais i gyda Siân Davies o Mencap mewn digwyddiad Zoom. Mae Caru â Chymorth yn pwysleisio pwysigrwydd cymorth da mewn helpu pobl gydag anableddau dysgu i ddatblygu a chynnal perthnasau cariadus.
Rydw i wedi bod yn dal lan gyda’r Llysgenhadon y mis hwn ac rydw i’n cynnal sesiynau wythnosol Awr Hwyl ar Zoom yn rheolaidd yn ogystal â chyflwyno diweddariadau Coronafeirws – mae llawer o newidiadau i’r rheolau Coronafeirws yn ddiweddar!