Ymateb i ymgynghoriad: Adnewyddu Contract Economaidd Llywodraeth Cymru
Cyflwynodd y prosiect Engage to Change ymateb i Lywodraeth Cymru ar 5 Mawrth 2021 mewn ymateb i’w hymgynghoriad.
Yn ein hymateb, ysgrifenasom ein bod yn croesawu ‘Adnewyddu Contract Economaidd Llywodraeth Cymru.’ Ein bod yn falch o weld ffocws cryf ar amodau gwaith teg ac yn arbennig ar greu amgylchedd iach, diogel a chynhwysol. Hoffem bwysleisio y byddai cynwysoldeb mewn amgylcheddau gwaith yn cynnwys yr amgylchedd i groesawu a chefnogi pobl ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth yn ogystal â’r ymdrechion arferol i wneud amgylcheddau ffisegol yn fwy hygyrch. Mae hyn yn berthnasol i ddiogelwch cyfreithiol hefyd. Rydym yn croesawu’r sylw i hawliau cyfreithiol, yn enwedig y rheini ar gyfer rhoi cyfle cyfartal i bobl â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys anableddau. Rydym yn gobeithio y byddai hyn yn ymestyn yn benodol i bobl gydag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth a allai fod angen llety ychwanegol yn ystod recriwtio, ymarfer cyfweliad, goruchwyliaeth, a hyfforddiant mewnol er mwyn sicrhau cydraddoldeb iddynt ochr yn ochr â phobl anabl eraill.
Gellir gweld yr ymateb llawn yn Saesneg yma (agor fel PDF): Agor Ffeil. Ar gyfer cwestiynau pellach neu fformatau eraill, cysylltwch â’n swyddog polisi Grace trwy Grace.Krause@LDW.org.uk