Blog Gerraint Chwefror 2021
Dw i wedi mynychu cwpl o gyfarfodydd y mis hwn yn ogystal â pharhau gydag Oriau Hwyl dydd Gwener.
Ar 23 Chwefror, bues i’n mynychu is-grŵp Cyfathrebu Engage to Change. Grŵp sy’n edrych ar sut gallwn ni hyrwyddo’r prosiect orau yw hwn yn ogystal â chyfleu ein nodau er mwyn cyrraedd cymaint o bobl â phosib. Gofynnwyd i mi siarad yng nghyfarfod is-grŵp Partneriaeth y Prosiect ar 25 Chwefror am fy rôl a’r bobl dw i wedi gweithio gyda nhw dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf.
Mae’r Oriau Hwyl dydd Gwener yn dal i fynd yn dda ac mae cyfranogwyr newydd gyda ni sydd wedi cael eu cyfeirio at yr awr hwyl o’r interniaethau â chymorth Engage to Change. Mae wastad yn beth da i bobl newydd gael ymuno â ni.
Dwi’n cynnig hyfforddiant gloywi i’r Llysgenhadon yr wythnos hon. Rydyn ni’n diweddaru ein gwybodaeth am y cyflwyniadau rydyn ni’n eu rhoi i ddarpar ymgeiswyr ar gyfer Engage to Change. Dw i wir yn edrych ymlaen at roi’r hyfforddiant hwn.
Mae digwyddiad ar-lein gyda ni ar 24 Mawrth am yr hyn sydd eisiau digwydd yng Nghymru i alluogi pobl gydag anabledd dysgu i gael mynediad i gyflogaeth – rhoia i adborth am y digwyddiad hwn y mis nesaf.