Blog Gerraint Mawrth 2021
Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth oedd hi ar ddiwedd mis Mawrth/ddechrau mis Ebrill a gyda help Sam Williams Swyddog Cyfathrebu Engage to Change, gwnes i fideo am fy mhrofiadau o’m diagnosis awtistiaeth a’m taith cyflogaeth i rôl Prif Lysgennad ar gyfer prosiect Engage to Change. Gallwch chi wylio’r fideo ar ein sianel YouTube (Saesneg yn unig).
Siaradodd George a Michael, dau o’n llysgenhadon prosiect, am Engage to Charge yng Nghynhadledd Flynyddol Pobl yn Gyntaf Blaenau Gwent ar 16 Mawrth.
Ar 24 Mawrth, Bues i’n cyd-gadeirio digwyddiad cyflogaeth ar Microsoft Teams gydag Elsa, un arall o’n llysgenhadon. Hwyluswyd y digwyddiad – “Y ffordd ymlaen – darparu cyflogaeth ar gyfer pobl gydag anabledd dysgu ac awtistiaeth” – gan bartner arweiniol Engage to Change, Anabledd Dysgu Cymru, ac roedd yn cynnwys tystiolaeth oddi wrth ein partneriaid ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd. Amlinellodd y digwyddiad yr hyn mae Engage to Change yn credu sydd angen digwydd yng Nghymru i alluogi mwy o bobl gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth er mwyn dod o hyd i a chadw gwaith cyflogedig. Hefyd roedd yn hyrwyddo cyflogi pobl gydag awtistiaeth a/neu anabledd dysgu.
Yn ddiweddarach yr wythnos hon, rydw i’n cyflwyno mewn Rhwydwaith Cyflogaeth ym Mlaenau Gwent – a anelir at weithwyr proffesiynol er mywn eu hannog i gefnogi cyflogi pobl gydag awtistiaeth a/neu anableddau dysgu. Bydda i’n adrodd yn ôl y mis nesaf.
Mae’r Awr o Hwyl yn parhau a hefyd rydw i’n gwneud diweddariadau Coronafeirws rheolaidd a lanlwythir i You Tube, Facebook, Twitter ac ap Insight. Hefyd cynhalion ni sesiwn hyfforddi gloywi ar gyfer llysgenhadon ddechrau mis Mawrth er mwyn gloywi eu gwybodaeth am gyflwyniadau i hyrwyddo’r prosiect.