Blog Gerraint Tachwedd 2020
Ar ddechrau’r mis, mynychais fore coffi’r Prosiect Rhwydweithiau Cymdeithasol. Roeddwn wedi recordio clip llais byr am fy mhrofiadau o awtistiaeth ac yn y bore coffi roedd yr holl straeon roedden nhw wedi’u casglu yn cael eu lansio. Mae’n dda rhwydweithio gydag asiantaethau eraill a bod yn agored am eich profiadau eich hun.
Roedd rhan gyntaf y mis yn brysur gyda Chynhadledd Flynyddol Anabledd Dysgu Cymru o’r enw ‘Pawb’. Roedd llawer o ddigwyddiadau ar-lein dros gyfnod o 2 wythnos ac fe wnes i gyd-gadeirio’r sesiwn agoriadol. Cymerais ran yn sesiwn Llywodraeth Cymru ar unigrwydd a chyd-hwyluso’r gweithdy Engage to Change yn ddiweddarach yn yr wythnos gyntaf. Mae Anabledd Dysgu Cymru yn bartner arweiniol i Ffrindiau Gigiau yn ogystal ag Engage to Change a mynychais sesiwn Ffrindiau Gigiau yn y gynhadledd, a oedd yn edrych ymlaen at lansio’r prosiect yng Ngogledd Cymru. Roedd hefyd yn wych gweld y partneriaid Engage to Change yn sesiwn Gyrfa Cymru.
Ar 19 Tachwedd, mynychais y grŵp LHDT a gynhaliwyd gan Mencap Cymru. Fel y Llysgennad Arweiniol, fy rôl i yw estyn allan at gynifer o grwpiau â phosibl i hyrwyddo Engage to Change.
O ran hyfforddiant, rwyf wedi bod ar gwrs cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar – rwy’n defnyddio llawer ar y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’r prosiect. Roedd yr hyfforddiant yn ddefnyddiol iawn a byddaf yn bendant yn defnyddio’r pethau a ddysgais i’m helpu i hyrwyddo Engage to Change.
Ar 25 Tachwedd dychwelais i Growing Spaces ar thema Be Bold, Be Brave. Mynychais eu sesiwn ar wirfoddoli a siaradais am fy mhrofiadau fy hun o waith gwirfoddol a sut yr oedd wedi fy helpu i fagu hyder, cynyddu fy rhwydwaith cymdeithasol ac, yn bwysig, fy helpu i sicrhau cyflogaeth â thâl!
Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â’r llysgenhadon eraill ar y prosiect yn ddiweddar. Rydym yn dal i edrych ar sut i gynyddu cyfranogiad merched yn y prosiect ac rydym wedi gofyn i’n llysgennad benywaidd Elsa siarad mewn digwyddiad ym mis Ionawr i annog mwy o ferched ifanc i ymuno â’r prosiect. Rydym hefyd yn bwriadu gofyn i gyfranogwr benywaidd recordio fideo o’i phrofiad yn y gobaith o ddenu mwy o ferched ifanc i’r prosiect.
Fe wnaeth Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan gynnal sesiwn lles ddiwedd mis Tachwedd. Fe wnaeth hyn gynnig cryn dipyn o awgrymiadau defnyddiol ar gyfer gofalu am eich lles emosiynol ac rwy’n bwriadu rhannu’r rhain gyda’r llysgenhadon yn fuan.