Carrie
Ymunodd Carrie â’r prosiect Engage to Change yn Hydref 2016. Roedd Carrie yn brin o hyder ac yn pryderu tra’n cyfarfod â phobl newydd, a oedd yn golygu bod hyd yn oed defnyddio ffôn yn frwydr i hi.
Rydyn ni wedi gweithio’n agos â Carrie ac wedi sicrhau lleoliad gwaith ar ei cyfer yn gweithio yn swyddfeydd 2 Wish Upon A Star yn Groesfaen. Mi oedd Carrie yn gyfrifol am greu a datblygu deunyddion marchata i godi ymwybyddiaeth o digwyddiadau i ddod. Fe wnaeth hi setlo mewn i fywyd y gwaith a dechreuodd ei hyder dyfu. Wythnos wrth wythnos ymgysylltodd Carrie mwy a mwy gyda’i cydweithwyr ac unrhywun fydd yn ymweld â’r swyddfa. Wrth i amser symud ymlaen a hyder tyfu roedd Carrie yn gallu dechrau ateb y ffôn a cymryd negeseuon ar gyfer ei cydweithwyr, ac mi wnaeth hi synnu ei hun gyda’r gallu newydd hyn. Mae hyder Carrie ond wedi cryfhau, ac mae hi nawr hyd yn oed yn ateb y ffôn pan mae hi gartref. Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Carrie i ddatblygu ei sgiliau yn bellach.
“My fy hyder yn bendant wedi gwella,” datgelir Carrie. “Rydw i wedi cyfarfod â phobl newydd a dod yn gyfforddus gyda amgylchedd swyddfa – a wnes i ateb y ffôn, rhywbeth nad oeddwn i byth yn meddwl byddaf i’n gwneud. Mae yna dal un neu ddath peth mae dal rhaid i fi weithio trwy, one mae hyn yn ddechrau da, a gallwn i ddim dymuno am lleoliad well.”
“Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda Carrie,” dywed Rachel, rheolwr y swyddfa. “Mae hi wedi bod yn aelod gwerthfawr o’r tîm. Rydyn ni wedi gweld ei hyder yn tyfu yn ystod ei amser hi gyda ni.”
Stori gan ein partneriaid yn Asiantaeth Cyflogaeth Cefnogol ELITE.