Dylanwadu a Hysbysu: Prentisiaethau Rhannu â Chymorth yn Ne Cymru
Yn 2021, buom yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i lansio peilot Prentisiaeth â Chymorth. Roedd y rhaglen yn cynnwys hyfforddiant swydd i helpu pobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth i gymryd rhan.
Darparwyd cefnogaeth hyfforddwr swydd i brentisiaid posibl gan Engage to Change drwy eu partneriaid cyflogaeth â chymorth, Agoriad Cyf ac ELITE, mewn 7 ardal yng Nghymru. Llwyddiant y peilot hwn arweiniodd at ddatblygu rhaglen Prentisiaeth Rhannu â Chymorth. Mae’r papur hwn yn archwilio’r profiadau o ddarparu cefnogaeth hyfforddwr swydd i bobl ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth sy’n cymryd rhan mewn 2 fodel o raglenni prentisiaeth gynhwysol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Y modelau yw Prentisiaeth â Chymorth a Phrentisiaeth Rhannu â Chymorth. Yn benodol, mae’n canolbwyntio ar bobl sy’n derbyn cefnogaeth gan ELITE Supported Employment Agency, sy’n gweithio mewn partneriaeth â darparwyr hyfforddiant Coleg Caerdydd a’r Fro a Cambrian Training.
Mae’r modelau hyn yn anelu at fynd i’r afael â’r heriau cyflogaeth sy’n wynebu pobl ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth drwy gyfuno hyfforddiant yn y gweithle â gwasanaethau cefnogaeth wedi’u teilwra. Mae’r camau hyn yn cyd-fynd ag ymdrechion ehangach dan Gynlluniau Cyflogadwyedd a Sgiliau Llywodraeth Cymru, sy’n canolbwyntio ar wella mynediad pobl anabl at gyflogaeth a phrentisiaethau.
Beth yw Prentisiaethau â Chymorth a Rhannu â Chymorth?
Mae Prentisiaethau â Chymorth yn cyfuno dysgu yn y gweithle a hyfforddiant swydd i alluogi pobl ifanc ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth i ennill cymwysterau a phrofiad gwaith ar yr un pryd.
Mae Prentisiaethau Rhannu â Chymorth hefyd yn darparu hyn, ond mae’r asiantaeth cyflogaeth â chymorth yn gweithredu fel cyflogwr y prentis, gyda phrentisiaid yn gweithio ar draws sawl lleoliad, gan gynyddu hyblygrwydd a chyfleoedd gwaith.
Mae’r ddau raglen hyn yn hyrwyddo cyflogaeth gynhwysol ac yn cyd-fynd ag Addewid y Person Ifanc Llywodraeth Cymru. Mae’r papur hwn yn disgrifio’r rhaglenni, yn tynnu sylw at ffactorau llwyddiant, heriau ac yn gwneud argymhellion yn seiliedig ar brofiadau cyflogaeth â chymorth ELITE.
📘 Adroddiad yma:
Saesneg: Report
Cymraeg: Adroddiad