Engage to Change: Gweinidog Llywodraeth Cymru yn ymweld â’r Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl i weld cyflogaeth â chymorth i bobl ifanc ag anableddau dysgu ar waith.
Yn ddiweddar, ymwelodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant AS, Dr. Hefin David AS a Phennaeth Polisi Cyflogaeth LlC, Nadine Young, â’r Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl (NCMH) i gyfarfod â staff y prosiect a phobl ifanc sydd wedi ennill swyddi cyflogedig trwy Engage to Change. Roedden nhw’n awyddus i ddysgu sut mae’r prosiect Engage to Change yn gweithio ledled Cymru i gefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth i mewn i waith cyflogedig.
Mae gan bobl ag anabledd dysgu gyfradd cyflogaeth amcangyfrifedig isel o ddim ond 4.8% (BASE 2023). Roedd Engage to Change yn brosiect saith mlynedd, yn cwmpasu Cymru gyfan, a ariannwyd drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu pobl ifanc ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth i fynd i’r afael â rhwystrau cyflogaeth a’r broses o drosglwyddo i swydd gyflogedig gan ddefnyddio model cyflogaeth â chymorth gyda hyfforddiant mewn swydd. Llwyddodd y prosiect i ddarparu cymorth cyflogaeth i 1075 o bobl ifanc a chyflwyno 244 o interniaethau â chymorth, gan gyflawni cyfradd gwaith cyflogedig gyffredinol o 41%.
Prifysgol Caerdydd oedd y cyflogwr cyntaf a’r brifysgol gyntaf yng Nghymru i gynnal interniaethau â chymorth trwy Engage to Change, gan weithio gyda Choleg Caerdydd a’r Fro, Asiantaeth Cyflogaeth â Chymorth Elite a Project SEARCH DFN.
Cyflwynwyd yr ymweliad gan Dr. Elisa Vigna ac Andrea Meek o dîm ymchwil Engage to Change, ynghyd â’r rheolwr prosiect Angela Kenvyn o’r partner arweiniol Anabledd Dysgu Cymru a Llysgennad Arweiniol Engage to Change a chydymaith ymchwil anrhydeddus PC, Gerraint Jones Griffiths.
Aethpwyd â Jack Sargeant AS, Dr. Hefin David AS a Nadine Young ar daith i gwrdd â Jacob Meighan, Tyler Savory ac Andrew Worsey sydd bellach i gyd wedi’u cyflogi yn NCMH yn dilyn lleoliadau interniaeth â chymorth llwyddiannus trwy Engage to Change. Mae Jacob yn gweithio fel gweinyddwr ymchwil yn nhîm ymchwil Engage to Change, tra bod Tyler ac Andrew ill dau’n gweithio fel cynorthwywyr gweinyddol yn NCMH.
Gwnaeth pawb gwrdd â’r Gweinidog, sgwrsio am y gwaith maen nhw’n ei wneud, sut roedden nhw wedi elwa o’u hinterniaethau, a’r gefnogaeth a gawsant i ennill gwaith cyflogedig. Buont hefyd yn sôn am yr effaith y mae gweithio wedi’i gael ar eu hyder a’u bywydau. Disgrifiodd Mark Coles, rheolwr llinell i Andrew a Tyler, sut maen nhw wedi dod yn rhan hanfodol o’r tîm.
Mae Tyler wedi siarad mewn sawl digwyddiad gan dynnu sylw at y gwahaniaeth mae cael swydd gyflogedig a chefnogaeth dda wedi’i wneud i’w fywyd. Dywedodd wrth y Gweinidog nad oedd yn gwybod bod rolau o’r fath ar gael cyn dechrau ei interniaeth, ond erbyn hyn mae’n hapus ac yn falch o fod mewn cyflogaeth a gweithio gyda’r tîm ar yr ymchwil pwysig sy’n cael ei wneud.
Yn dilyn y daith ymunodd Tyler, Andrew a Jacob â thrafodaeth anffurfiol am sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu ac awtistiaeth i mewn i gyflogaeth, gan gynnwys yr angen am fwy o ffocws ar bontio o addysg, sut y dylai Llywodraeth Cymru hyrwyddo cydweithio gwell rhwng Gweinidogion i gefnogi cyflogaeth a’r angen brys am strategaeth Hyfforddiant mewn Swydd genedlaethol.
Dywedodd Dr. Vigna, sy’n arwain tîm ymchwil Engage to Change:
“Mae ymchwil Engage to Change yn dangos sut y gall cyflogaeth â chymorth a hyfforddiant mewn swydd arwain at waith cyflogedig i bobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth. Fodd bynnag, nid yw cynlluniau’r llywodraeth yn cynnig digon o hyfforddiant mewn swyddi medrus i gefnogi pobl sy’n chwilio am gyflogaeth. Mae’r llwyddiant ym Mhrifysgol Caerdydd o ganlyniad i ymrwymiad y brifysgol ynghyd â’r parhad y mae’n ei gynnig i’r bobl ifanc wrth iddyn nhw drosglwyddo i fyd gwaith.”
Mae prosiect Engage to Change wedi arloesi gyda’r defnydd o interniaethau â chymorth yng Nghymru a dysgwyd llawer am sut y gellir cyfuno dysgu yn y gweithle yn rhan o fusnes lletya. Dywedodd y Rheolwr Prosiect, Angela Kenvyn:
“Roedden ni’n falch iawn o gael y cyfle hwn i arddangos gwaith Engage to Change. Mae llwyddiant y rhaglen yn deillio o’r ymrwymiad a’r bartneriaeth gref rhwng pawb sydd ynghlwm wrth y prosiect, ynghyd â pharodrwydd y bobl ifanc i roi cynnig ar rywbeth newydd. Rydyn ni’n gobeithio y bydd trafodaethau gyda’r Gweinidog, Dr. David AS a Nadine Young yn llywio polisi a rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru nawr ac yn y dyfodol.”
Diolchodd Dr. Hefin David AS i Tyler, Andrew a Jacob gan ddweud:
‘Mae’r gwaith a wnaed gan y tîm Engage to Change wedi bod yn drawsnewidiol. Roedd hi’n dda cael arddangos hyn i’r Gweinidog Diwylliant, Partneriaeth Gymdeithasol a Sgiliau. Credaf yn gryf y dylai Llywodraeth Cymru chwarae rôl wrth gefnogi’r math hwn o gyflogaeth â chymorth fel y gall cenedlaethau’r dyfodol elwa o wasanaeth parhaus ac ehangach. Byddaf yn parhau i lobïo dros hyn fel Aelod o’r Senedd.’
Engage to Change: Tystiolaeth lafar am y bwlch cyflogaeth anabledd yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol E2C Tystiolaeth Lafar y Senedd ar y Bwlch Cyflogaeth Anabledd
Gallwch ddarllen yr adroddiad diweddaraf gan Engage to Change yma: Engage to Change: Gwasanaeth i Strategaeth
Fersiwn hawdd ei ddeall: Hawdd-ei-Ddeall-Engage to Change: Gwasanaeth i Strategaeth
Tyler yn siarad yn y digwyddiad “Knowing me Knowing You”: Tyler Savory – fy nhaith
Mark Coles yn sôn am fentora, pontio a chefnogi cyflogaeth
Gallwch ddarllen mwy am waith y prosiect Engage to Change yma: Gwerthusiad ymchwil Engage to Change
Am ragor o wybodaeth am Engage to Change neu ymchwil cyflogaeth â chymorth cysylltwch â Dr. Elisa Vigna: Vignae@caerdydd.ac.uk
Nid yw’r prosiect Engage to Change yn derbyn atgyfeiriadau agored ledled Cymru mwyach, fodd bynnag, mae Prifysgol Caerdydd yn parhau i gynnig lleoliadau Interniaeth â Chymorth mewn partneriaeth â Choleg Caerdydd a’r Fro, gan weithio gydag Asiantaeth Cyflogaeth â Chymorth Elite. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Noam Devey DeveyN@caerdydd.ac.uk