Goleuni ar hyfforddiant cyflogaeth
Amser i daflu’r goleuni ar Cydlynwyr ac Ymgynghorwyr Hyfforddiant Cyflogaeth ELITE Supported Employment!
Kate Goode, Ymgynghorydd Hyfforddiant Cyflogaeth
Beth yw eich rôl ar Engage to Change?
Fi yw ymgynghorydd y rhaglen ar gyfer ardaloedd Caerffili a Pen-y-Bont ac yn helpu pobl ifanc tuag at ennill cyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys cynnal asesiadau galwedigaethol, creu CVs, darparu cymorth a canllawiau, mewn gwirionedd unrhywbeth rydyn ni’n gallu gwneud i’ch helpu chi mewn i gyflogaeth a gobeithio i gynyddu eich hyder ac annibyniaeth. Fi hefyd yw gwiriwr ein hyfforddiant ffurfiol ac yn darparu cyngor a canllawiau ar ein unedau Agored Cymru.
Beth ydych chi’n mwynhau’r mwyaf am eich swydd?
Rwy’n mwynhau’r amrywiaeth o bobl ifanc rwy’n cyfarfod, ffeindio mas amdanynt a beth maen nhw eisiau gwneud, a rhoi cymorth iddynt i lwyddo yn hyn. Mae’r swydd yn unigryw oherwydd rydyn ni i gyd yn unigryw!
Beth fu eich moment Engage to Change mwyaf falch?
Rwy’n teimlo’n falch o’r holl cyflawniadau a gwneir gan y bobl ifanc rwy’n gweithio gyda. Fodd bynnag rwy’n teimlo’n hynod o falch o gyflawniad Sam Fox o ennill cyflogaeth gyda Craig y Parc.
Beth yw rhai o’ch hoff bethau?
Gwario amser gyda fy nheulu. Rwy’n caru garddio a tyfu ffrwythau a llysiau fy hun.
Bev Davies, Cydlynydd Hyfforddiant Cyflogaeth
Beth yw eich rôl ar Engage to Change?
Fel Cydlynydd Hyfforddiant Cyflogaeth, rwy’n cyfarfod â cyflogwyr i hyrwyddo’r prosiect Engage to Change a negodi lleoliad a dalwyd ac/neu profiad gwaith i’r cleientiaid. Mae’r cyflogwyr rwy’n cyfarfod yn cyfateb i ddewis y cleientiaid o waith, mae hyn yn cael ei ddarganfod yn ystod yr asesiad wedi’i canolbwyntio ar yr unigolyn gyda cleientiaid unigol.
Beth ydych chi’n mwynhau’r mwyaf am eich swydd?
Cyfarfod cleientiaid ac adeiladu partneriaid dibynadwy gyda cleientiaid a cyflogwyr.
Beth fu eich moment Engage to Change mwyaf falch?
Mae yna llawer o amseroedd Engage to Change falch, pan rydw i wedi ffeindio’r swydd sy’n yn gyfateb yn gywir gyda’r cleient. Hefyd, derbyn cymorth o’r cyflogwyr a clywed sut mae’r cleientiaid yn gwneud yn ystod ei adolygiadau misol.
Beth yw rhai o’ch hoff bethau?
Gwylio fy mab yn chwarae rygbi, creu cardiau e.e. penblwyddi a priodasau.
Cymdeithasu gyda fy ffrindiau. Ymlacio yn y gardd yn y twb poeth gyda gwydr o win!