Sarah-Jayne: o DFN Project SEARCH i Prentis Cynorthwyol y Fferyllfa
Dim ond am interniaeth un tymor yr oedd Sarah-Jayne Mawdsley i fod yn yr Adran Fferylliaeth y llynedd, ond heddiw mae ganddi swydd Prentis Cynorthwyol y Fferyllfa, gan iddi sicrhau prentisiaeth dwy flynedd yn Ysbyty Gwynedd. “Rwy’n jest hapus dros ben bod hyn wedi digwydd i mi,” meddai Sarah-Jayne. “O flwyddyn yn ôl, ni feddyliais erioed y byddwn yn cyrraedd yma ac mae’n rhywbeth mawr i mi. Oni bai am Brosiect SEARCH byddwn i ddim yma o gwbl.”
Diagnoswyd Sarah-Jayne gyda Syndrom Down Mosaig pan oedd hi’n ifanc. Ym mis Medi 2017, dechreuodd Sarah-Jayne ar ei thaith tua chyflogaeth gydag Engage to Change gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Fel aelod o’r garfan gyntaf o interniaid i gymryd rhan mewn ffrwd DFN Prosiect SEARCH Engage to Change yng Ngogledd Cymru, roedd hi’n ymgymryd â menter newydd ac anhysbys. Doedd hi ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl ar y dechrau. Ond fe ymgynefinodd yn gyflym ag Adran Fferylliaeth yr ysbyty ym Mangor, gan wneud argraff ar ei chyflogwyr trwy ei chymhelliad a’i pharodrwydd i ddysgu.
Mae’r amgylchedd croesawgar ac agored yn yr adran wedi galluogi Sarah-Jayne i ffynnu a datblygu ei sgiliau cyfathrebu. “Roeddwn yn arfer bod yn eithaf swil, ond ers i mi fod yma mae pawb wedi bod yn hynod neis i mi ac mae fel ail deulu gyda nhw,” meddai. Mae Lynne Roberts, Rheolwr y Fferyllfa, yn cytuno. “Fel unigolyn rwy’n credu bod Sarah-Jayne wedi datblygu cryn dipyn o hyder.”
Mae Lynne hefyd yn pwysleisio manteision cael Sarah-Jayne yn yr adran. “Mae wedi bod yn brofiad hynod dda, ar gyfer Sarah-Jayne gan i mi feddwl ei bod hi wedi elwa llawer ohono, ond hefyd ar gyfer yr adran. Mae hi’n bâr newydd o lygaid yn y ddosbarthfa felly mae hi’n barod i awgrymu dulliau gweithio newydd, sy’n wych i ni.”
Dechreuodd Sarah-Jayne yn y ddosbarthfa’n llenwi’r robot, yn gwirio’r feddyginiaeth a’r dyddiadau darfod wrth iddi weithio, ac yn sganio’r codau bar i fewnbynnu’r feddyginiaeth. Mae ei thasgau bob dydd eraill bellach yn cynnwys gofalu am gylchdroi stoc yn y stordy, sganio gwaith papur a sicrhau bod gorsafoedd gwaith a droriau yn y ddosbarthfa wedi’u paratoi a’u llenwi.
“Mae hi wedi dod ymlaen o lam i lam gyda’i hyder,” meddai mam Sarah-Jayne, Bethan, yn frwdfrydig. Dywedodd fod Sarah-Jayne, er ei bod hi’n arfer ei chael yn anodd cyfathrebu â phobl, “ers gweithio fan hyn a gwneud Prosiect SEARCH, yn llawn hyder ac yn berson llawer hapusach ynddi’i hun. Mae hi wedi cael cefnogaeth syfrdanol.”
Mae’r gefnogaeth wedi dod o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys o’i mentoriaid yn yr adran, a’i chymhellwyr swydd Rebecca a Natalie o Agoriad Cyf, i’w hyfforddwr Gwyn o Goleg Llandrillo Menai. Mae Rebecca a Natalie wedi cefnogi Sarah-Jayne i ddysgu tasgau newydd, gan ddarparu cefnogaeth ddwys gychwynnol ar ddechrau’r rhaglen. “Wrth i’r wythnosau fynd heibio, dechreuom gamu’n ôl ychydig; sylweddolom ei bod hi’n dechrau cydio yn y tasgau,” meddai Natalie. “Aeth hi’n eithaf annibynnol yn eithaf cyflym.” Parhaodd y ddau gymhellwr swydd i alw heibio o hyd trwy gydol y flwyddyn i gynnig cefnogaeth i Sarah-Jayne, ei rheolwr a’i mentoriaid, ac i wirio ei chynnydd.
Mae Sarah-Jayne yn edrych tuag at y dyfodol ac at adeiladu ei gyrfa mewn fferylliaeth, ond ddim heb gydnabod pa mor bell y mae hi wedi dod a sut mae hi wedi rhagori ar ddisgwyliadau pobl eraill.
“Pan oeddwn yn ifanc roedd gennyf yr holl feddygon yn dweud wrthyf na chawn i wneud hwn ac na chawn i wneud y llall. Ces i ddiagnosis o Syndrom Down Mosaig felly dyna pam roedden nhw’n dweud na allwn i wneud pethau, ond rwyf wedi profi eu bod nhw’n anghywir, ac mae’n teimlo fel y galla i wneud unrhyw beth sy’n bosib i mi ei wneud.”
Mae’r stori hon wedi cael ei gynnwys ar Blog Mawr y Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.