Shane yn edrych nôl
Enw: Shane Halton
Sut ydych chi’n teimlo am eich amser ar y rhaglen Engage to Change DFN Project SEARCH?
Roeddwn i wir yn hoffi bod ar y cwrs yma gan ei fod wedi rhoi’r siawns i mi deimlo beth fydd swydd fel a gweithio mewn amgylchedd prifysgol.
Pa interniaethau ydych chi wedi gwneud ers i chi ddechrau Engage to Change DFN Project SEARCH?
Rydw i wedi aros yn yr adran Gemeg am y tri interniaeth oherwydd roedd fy mhenaethiaid eisiau fe nghadw gan nad oedden nhw’n meddwl y baswn wedi dysgu cymaint o sgiliau yn ystod un interniaeth. Ac fy mod wedi gwneud swydd da pan oeddwn i’n gweithio yna.
Beth oedd eich hoff interniaeth a pham?
Cemeg sydd wedi bod yn fy hoff interniaeth oherwydd rydw i wedi mwynhau gweithio gyda’r bobl yn yr adran Gemeg a gan fy mod wedi cael swydd allan ohoni.
Disgrifiwch rhai o’r tasgau wnaethoch chi yn ystod y flwyddyn.
Un o’r tasgau wnes i oedd bod yn Gadeirydd yn ein parti Nadolig. Fy rôl oedd helpu pobl gyda’i tasgau ac atgoffa nhw am ei dyddiadau cau.
Sut mae hi wedi helpu chi i fod ar Engage to Change DFN Project SEARCH a beth ydych chi wedi dysgu yn ystod y flwyddyn?
Mae Project SEARCH wedi helpu fi i dyfu fy hyder a cael y profiad o beth fydd hi fel i gael swydd.
Sut mae Lily (hyfforddwr swydd), Kerri a Bev (hyfforddwyr y coleg) wedi helpu chi yn ystod y flwyddyn? Pa fath o gymorth ydych chi wedi derbyn ohonynt?
Rydw i wedi cael cymorth gyda cais swydd, fy interniaethau a’r swydd rydw i wedi ennill o Cemeg.
Pa fath o swyddi ydych chi’n gwneud cais amdano ac a ydych chi wedi bod yn llwyddiannus eto?
Rydw i wedi bod yn gwneud ceisiadau am swyddi Technegydd Lab ac rydw i wedi bod yn llwyddiannus gan fy mod wedi cael swydd gyda Prifysgol Caerdydd yn yr Adran Gemeg.
Nawr bod Engage to Change DFN Project SEARCH yn dod i ddiwedd, beth fyddwch chi’n hoffi gwneud, neu’n cynllunio gwneud, yn y dyfodol?
Hoffwn arbed fy arian ar gyfer gwersi gyrru, gwyliau ac efallai fflat.