Cwestiynau i ofyn person ifanc ynglŷn â’r gwaith
Pan mae person ifanc yn dechrau gweithio, yn enwedig os eu swydd cyntaf yw hi, mae llawer o rhieni a gofalwyr yn teimlo’n pryderus ar eu rhan ac eisiau gwybod popeth sy’n mynd ymlaen – mae hynny’n iawn ac yn hollol cyffredin, ond gall llawer o gwestiynau oroesi person ifanc gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth.
I annog atebion sy’n rhoi mewnwelediad mewn i’w diwrnod yn y gwaith, gofynnwch cwestiynau agored sydd ddim yn gofyn am ateb ‘ie’ ne ‘na’.
Yn hytrach na gofyn…
|
Dywedwch…. |
“A wnaethoch chi gael diwrnod da?” |
“Beth wnaethoch chi yn y gwaith heddiw?”
|
“Ydych chi’n mwynhau’r swydd?”
|
“Dywedwch wrthyf am rywbeth cyffrous / doniol a ddigwyddodd yn y gwaith heddiw.” |
“Ydy’r bobl yn neis?”
|
“Sut wnaeth pobl helpu chi yn y gwaith heddiw?” |
“Oeddech chi’n mynd i unrhyw le ar gyfer cinio?”
|
“Sut wnaethoch chi dreulio’ch egwyl cinio?” |
“Oeddech chi’n nerfus?”
|
“Beth helpodd chi i setlo mewn?” |
“Ydy eich rheolwr yn neis?”
|
“Sut fyddech chi’n disgrifio’ch rheolwr?” |
“Ydych chi’n edrych ymlaen at yfory?”
|
“Beth ydych chi’n gyffrous am yfory?” |
Mae’n bosib gall person ifanc gyrraedd adref a teimlo fel mae angen arnynt rhywfaint o le, neu ddim eisiau siarad am eu diwrnod yn syth. Am lawer o rhieni a gofalwyr, gall hyn fod yn bryder oherwydd efallai y bydd yn ymddangos nad yw’r person ifanc wedi mwynhau eu diwrnod yn y gwaith.
Mae’n syniad da i beidio eu orlwytho nhw gyda cwestiynau – gall yr amgylchedd gwaith dod â profiadau synhwyraidd newydd sy’n llethol, felly gadewch bach o le i’r person ifanc i ymlacio. Os ydych chi mewn gwirionedd yn poeni bod y person ifanc yn teimlo’n bryderus am ddychwelyd i’r gwaith, ac mae rhaid i chi wybod beth sy’n mynd ymlaen, gallwch chi ddweud pethau fel:
“Mae’n gyffredin i deimlo bach yn bryderus yn ystod eich dyddiau cyntaf yn y gwaith. Oes yna unrhywbeth allai wneud i helpu?”
“Nid wyt ti fel dy hun. Allwch chi ddweud wrthai beth ddigwyddod i wneud i chi deimlo fel hyn?”
“Mae’n iawn i beidio mwynhau gweithio yn syth. Beth allen ni wneud i helpu chi i deimlo’n fwy sefydlog?”
Os nad yw’r person ifanc eisiau siarad am gwaith, ac maen nhw’n derbyn cymorth o Engage to Change, gallwch cysylltu â’r asiantaeth cyflogaeth â chymorth syn darparu hyfforddwr swydd i siarad am eich pryderon ac i dderbyn bach o sicrwydd.