Sut allwch chi gefnogi person ifanc i baratoi ar gyfer y gweithle
Mae mynd i mewn i’r weithle am y tro cyntaf yn gallu bod yn drawiad nerfau i unrhywun. Gall pobl ifanc gydag anabledd dysgu, anhawster dysgu ac/neu awtistiaeth teimlo’n fwy pryderus wrth ddechrau gwaith neu profiad gwaith. Rhaid iddynt fynd i mewn i amgylchedd newydd, ble fe fydd pobl newydd i ddod i adnabod a rheolau a disgwyliadau newydd rhaid gweithio o fewn.
Fel bod y person ifanc yn gallu cael y profiad gorau o waith, mae hi’n syniad da i’w helpu fod mor barod â phosib. Dylai’r awgrymiadau canlynol eich helpu i rhoi cymorth i’r person ifanc i ddechrau gwaith, profiad gwaith, neu gwirfoddoli.
1: Os yn bosib, cymrwch nhw i ymweld â’r gweithle sawl gwaith cyn iddynt ddechrau
Fe fydd hyn yn haws os mae’r gweithle ar agor i’r cyhoedd (e.e. siop, caffi, gwesty ac ati). Gallwch chi grwydro o gwmpas a siarad am y tasgau mae pobl yn gwneud, y fath o gwsmeriaid sydd yna, cynllun yr adeilad, yr arogleuon a’r synau. Fe fydd hyn yn helpu’r person ifanc ymgyfarwyddo ei hunan ac gwneud cerdded i mewn ar ei diwrnod cyntaf yn llai brawychus. Helpwch nhw i gymryd sylw o’r pethau sydd yn digwydd o’i cwmpas.
Os nad yw’r gweithle ar agor i’r cyhoedd, gofynnwch os allwch chi drefnu ymweliad gyda’r cyflogwr. Os ydych chi’n gweithio gydag asiantaeth cyflogaeth â chymorth, gofynnwch sut y bydden nhw’n rheoli ymweliadau cyn-gyflogaeth.
2: Siaradwch i’r person ifanc am sut maen nhw’n teimlo ynglŷn â dechrau’r gwaith
Mae rhai pobl ifanc yn ei ffeindio’n anodd i gyfathrebu sut maen nhw’n teimlo ynglŷn â digwyddiadau mawr – ac mae dechrau’r gwaith yn ddigwyddiad mawr ym mywyd person ifanc. Anogwch nhw i siarad am ei teimladau gyda cwestiynau penagored:
- Beth sy’n gwneud i chi deimlo’r gyffrous ynglŷn â gweithio?
- Am beth ydych chi’n meddwl y byddwch chi’n teimlo’r mwyaf falch pan rydych chi yn y gwaith?
- Pa bethau am dechrau’r gwaith sy’n gwneud i chi deimlo bach yn nerfus?
3: Siaradwch iddyn nhw am gyflwyniad personol
Mae cyflwyniad personol yn y gwaith yn bwysig, ac yn cynnwys hylendid a gwisgo’r dillad addas.
Mae llawer o bobl gydag anabledd dysgu, anhawster dysgu ac/neu awtistiaeth yn ymateb yn well i arferion rheolaidd, felly cyn iddynt ddechrau’r gwaith, helpwch nhw i greu arfer cyn-waith sy’n cynnwys paratoi i gyflwyno ei hun yn addas ar gyfer y gwaith. Gallwch ysgrifennu rhestr neu creu cymorth gweledol i helpu’r person ifanc i wneud hyn yn annibynnol nes eu bod yn ddigon cyfarwydd â’r drefn nad oes angen y rhain mwyach. Gall yr arfer gynnwys:
- Cael cawod
- Brwsio dannedd
- Defnyddio ddiffoddwr
- Gwneud yn siwr bod dillad yn lân ac wedi smwddio
- Gwneud gwallt
- Glanhau esgidiau
4: Dod ymlaen gyda cydweithwyr
Mae cyfarfod pobl newydd a rhyngweithio gyda cydweithwyr yn gallu bod yn brawychus ac anodd i rhai pobl ifanc. Siaradwch iddynt ynglŷn â sut i gyflwyno ei hunain, a pha cwestiynau i ofyn eraill i gychwyn sgwrs. Mae’r gwaith yn le llawer haws i fod os mae yna wynebau cyfeillgar yno i helpu’r person ifanc. Dyma rhai cwestiynau cychwynnol gall y person ifanc ofyn i gydweithwyr newydd:
- Pa mor hir ydych chi wedi gweithio yma?
- Pa swydd ydych chi’n gwneud yma?
- Beth ydych chi’n gwneud amser cinio?
- Pwy yw’r person gorau i ofyn os mae angen help arnaf gyda rhywbeth?
- Pa waith ydych chi wedi gwneud o’r blaen?
- Beth ydych chi’n hoffi gwneud pan nad ydych chi yn y gwaith?
Gall y cwestiynau yma agor sgyrsiau hirach i fyny gyda cydweithwyr bydd yn helpu’r person ifanc setlo mewn.
5: Teithio i’r gwaith
Penderfynwch yn gynnar sut bydd y person ifanc yn teithio i’r gwaith. Os maen nhw’n mynd i gael lifft i’r gwaith a nôl gartref, sefydlwch lle y byddant yn cael eu gollwng a’u codi.
Os mae’r person yn teithio’n annibynnol, gwnewch yn siwr eu bod nhw’n gyfarwydd ac yn gyfforddus gyda’r llwybr a’r modd cludiant. Os mae’r person ifanc yn gweithio gyda asiantaeth cyflogaeth â chymorth, gallent cynorthwyo gyda hyfforddiant teithio. Os na, rhowch gymorth i’r person ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth cyhoeddus yn annibynnol. Darllenwch mwy ar cefnogi person ifanc i deithio’n annibynnol yma.
6: Cefnogwch y person ifanc i ddewis eu dillad/offer eu hun ar gyfer gwaith
Os mae rhaid i’r person ifanc brynu dillad newydd, neu offer fel deunydd ysgrifennu, deunydd ymolchi ayyb, ewch â nhw i’r siopau i ddewis beth basen nhw’n hoffi. Gadewch iddynt wneud dewisiadau addas ond annibynnol ac anogwch nhw i drio dillad ymlaen cyn prynu fel gallech chi fod yn siwr na fydd yna problemau i wneud â dillad ar diwrnod cynta’r gwaith (rhy fawr, rhy bach, crafu gormod!)
7: Y noson cyn y diwrnod mawr
Efallai y bydd nerfau ar eu huchaf y noson cyn dechrau’r gwaith. Anogwch y person ifanc i gael noson ymlaciol ac i fynd i’r gwely ar amser addas fel na fydd nhw’n teimlo’n rhy flinedig y diwrnod nesaf. Os mae eich person ifanc yn dylluan nos sy’n aros lan tan yr oriau cynnar, efallai bydd rhaid i chi annog arfer noswaith well sawl wythnos cyn i’r swydd ddechrau.
8: Y diwrnod maent yn dechrau’r gwaith
Peidiwch a phoeni gormod, atgoffwch nhw o’u arfer “cael yn barod at gyfer y gwaith” a rhowch gymorth iddynt trwy ofyn sut maen nhw’n dod ymlaen. Dymunwch lwc iddynt a gwnewch nodyn o’r holl gwestiynau mae ganddoch pan rydyn nhw’n dychwelyd!