Hyfforddiant
Mae ein partneriaid darpariaeth Engage to Change ELITE ac Agoriad yma i helpu chi a’ch staff gyda hyfforddiant pwrpasol er mwyn datblygu ymgysylltiad ac ymarfer da yn bellach.
Gallwn ddylunio’r hyfforddiant i gyrraedd â anghenion y cyflogwr mewn perthynas â cynnwys, hyd a fformat a gellir cynnwys y pynciau canlynol:
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Anabledd/ Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Awtistiaeth
– Cyngor a canllawiau ar anabledd neu anhawster penodol
– Strategaethau a Chymhorthion Ymdopi
Hyfforddiant Cydraddoldeb
Nod y hyfforddiant yma yw i sicrhau bod y polisïau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar waith, bod cyflogwyr yn cymhwyso arfer da a sicrhau’r ymgysylltiad o fewn y farchnad o bobl ifanc gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth.
Hyfforddiant Mentora
Cyngor a canllawiau i staff ar bob lefel i ddarparu cymorth a mentora (cymorth bydi) o fewn y gweithle.